2012 Rhif 1198 (Cy. 148 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau penodol i Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300)) (“Rheoliadau 2009”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru—

(a)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd (OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.1) (“Rheoliad 1129/2011”);

(b)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd a gymeradwyir i'w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maethynnau (OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.178) (“Rheoliad 1130/2011”); ac

(c)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy'n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif  L83, 22.3.2012, t.1) (“Rheoliad 231/2012”).

2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 yn y fath fodd ag i—

(a)     diwygio'r diffiniadau o “lliw a ganiateir”, “melysydd a ganiateir” a “meini prawf purdeb” i gyfeirio at Reoliad 231/2012 (rheoliad 2(2)(a),(b) ac (c));

(b)     estyn y diffiniad o Reoliad 1333/2008 i gynnwys cyfeiriad at Reoliad 231/2012 (rheoliad 2(2)(d));

(c)     mewnosod diffiniadau o'r tri Rheoliad UE a grybwyllwyd ym mharagraff 1 (rheoliad 2(2)(e));

(d)     cynnwys Rheoliad 231/2012 yn y rhestr o offerynnau UE y mae cyfeiriad newidiadwy'n cael ei wneud atynt (rheoliad 2(3));

(e)     cynnwys cyfeiriad at  Reoliadau 1129/2011 a 1130/2011 yn rheoliad 14 (rheoliad 2(4)(a));

(f)      hepgor y cyfeiriadau yn rheoliad 14 at Erthygl 4.2 o Reoliad 1333/2008 (rheoliad 2(4)(b)); ac

(g)     mewnosod cyfeiriad at Erthygl 4.2 yn yr Atodlen o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 penodedig (rheoliad 2(5)).

3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad hefyd i Reoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658) er mwyn cywiro hepgoriad o Reoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1849 (Cy.199)) (rheoliad 3).

4. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

 


2012 Rhif 1198 (Cy. 148 )

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012

Gwnaed                                  27 Ebrill 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2 Mai 2012

Yn dod i rym                                23 Mai  2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (c) ac (f), 17(1) a (2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt([2]), fel y’i darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i offeryn UE a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([4]), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 23 Mai 2012. 

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009([5]) wedi eu diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (5).

(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn lle'r diffiniad o “lliw a ganiateir” rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “lliw a ganiateir” (“permitted colour”)—

(a)   cyn 1 Rhagfyr 2012, yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/128;

(b)  ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012, yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;

(b)     yn lle'r diffiniad o “melysydd a ganiateir” rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”)—

(a)   cyn 1 Rhagfyr 2012—

                           (i)    yw unrhyw felysydd a bennir yn yr ail golofn o’r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 sy’n bodloni’r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/60; neu,

                         (ii)    yn achos glycosidau stefiol E960, yw melysydd sy’n bodloni’r meini prawf purdeb ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;

(b)  ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012—

                           (i)    yw unrhyw felysydd a bennir yn yr ail golofn o’r  Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35; neu

                         (ii)    yw glycosidau stefiol E960

sy’n bodloni’r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw a nodir yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;

(c)     yn lle'r diffiniad o “meini prawf purdeb” rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “meini prawf purdeb” (“purity criteria”), mewn perthynas ag ychwanegyn amrywiol—

(a)   cyn 1 Rhagfyr 2012, yw’r meini prawf purdeb a nodir mewn perthynas â’r ychwanegyn hwnnw yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/84 neu, yn achos copolymer methacrylad basig E1205, yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;

(b)  ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2012, yw’r meini prawf purdeb a nodir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn yr Atodiad i Reoliad 231/2012;”;

(d)     ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 1333/2008” mewnosoder “fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 231/2012”; ac

(e)     ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 1333/2008” mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “Rheoliad 1129/2011” (“Regulation 1129/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1131/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran glycosidau stefiol;

ystyr “Rheoliad 1130/2011” (“Regulation 1130/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr Undeb o ychwanegion bwyd a gymeradwyir i'w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maethynnau;

ystyr “Rheoliad 231/2012” (“Regulation 231/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy'n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau  II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor;”.

(3) Yn lle paragraff (6) o reoliad 2, rhodder y   canlynol—

(6) Yr offerynnau UE yw Cyfarwyddeb 94/35, Cyfarwyddeb 95/2, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 231/2012.”

(4) Yn rheoliad 14(2) (tramgwyddau a chosbau)—

(a)     ar ôl yr ymadrodd “Erthygl 34 o Reoliad 1333/2008,” ychwaneger “Erthygl 2 o Reoliad 1129/2011 ac Erthygl 2 o Reoliad 1130/2011,”; a

(b)     hepgorer is-baragraffau (b) ac (c).

(5) Yn y tabl yn yr Atodlen (darpariaethau Rheoliad 1333/2008 penodedig), yn union ar ôl y cofnodion sy'n ymwneud ag Erthygl 4.1 mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

 

Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3)

Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 a gaiff eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maethynnau a hynny o dan yr amodau defnydd a bennir yn yr Atodiad hwnnw.”

 

Diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993([6])  wedi eu diwygio o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).

(2) Yn Atodlen 1 Rhan I (toddyddion echdynnu a ganiateir) ychwaneger fel cofnod rhif 22 yng Ngholofn 1 y geiriau “Dimethyl ether”.

 

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

27 Ebrill 2012          



([1])   1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17 hefyd gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 a chan O.S. 2007/1388. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

([2])   Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

([3])   1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51)  ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388 a Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

([4])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran yr weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar  (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). 

([5])           O.S. 2009/3378 (Cy.300). Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu diwygio gan O.S. 2011/655 (Cy.93) ac O.S. 2011/1450 (Cy.172).

([6])           O.S. 1993/1658. Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu diwygio gan O.S. 1995/1440, O.S. 1998/2257 ac, o ran Cymru, gan  O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2011/1849 (Cy.199).